Dydd San Padrig Hapus - Oedd e'n Gymro? Parton Saint O bosibl wedi ei eni yng Nghymru
Dethlir Dydd San Padrig ledled y byd ar 17eg Mawrth.
Ond ai Cymro oedd nawddsant Iwerddon mewn gwirionedd?
Treuliais flwyddyn o fy mhlentyndod yn Nulyn oherwydd gwaith fy nhad ac yn yr ysgol cawsom ein dysgu bod Sant Padrig wedi ei eni yng Nghymru. Credir mai ei fan geni yw Bannavem Taburniae, a allai fod yn Banwen yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Ffynhonnell y llun: http://www.catholicsaintmedals.com/about-st-patrick.aspx
Pan oedd yn ei arddegau, cafodd ei herwgipio gan fôr-ladron a’i werthu i gaethwasiaeth yn Iwerddon. Tra mewn caethiwed, credir iddo weithio fel bugail, a dyna lle y daeth o hyd i Dduw. Dihangodd trwy fyrddio llong adref pan oedd yn ugain oed.
Yn ôl yng Nghymru, dywedir iddo hyfforddi fel offeiriad yn Eglwys Llanilltud Fawr, un o ganolfannau dysgu hynaf Prydain (a sefydlwyd yn 500 OC).
Wedi ei ordeinio yn offeiriad, dychwelodd i Iwerddon yn genhadwr. Chwaraeodd ran fawr wrth drosi'r wlad i Gristnogaeth a daeth yn esgob cyntaf iddynt.
Felly oedd e'n Gymro? Wel, mae'n anodd dweud. Nid oes tystiolaeth gadarn o'i fro enedigol, ac mae pobl hefyd yn dadlau bod Cymru yn rhan o Brydain Rufeinig ar y pryd. Fodd bynnag, bob blwyddyn mae dathliad yn y Banwen, sydd wedi hawlio'r sant fel eu sant gyda balchder.